Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg


 

Fideo gynadledda drwy Zoom

Dyddiad: Dydd Mawrth, 5 Mai 2020

Amser: 14.10 - 15.35

Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6094


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Lynne Neagle AS (Cadeirydd)

Dawn Bowden AS

Suzy Davies AS

Janet Finch-Saunders AS

Siân Gwenllian AS

Tystion:

Vaughan Gething AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Julie Morgan AS, Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Albert Heaney, Llywodraeth Cymru

Nicola Edwards, Llywodraeth Cymru

Yr Athro Jean White, Llywodraeth Cymru

Tracey Breheny, Llywodraeth Cymru

Staff y Pwyllgor:

Llinos Madeley (Clerc)

Tanwen Summers (Ail Glerc)

 

<AI1>

1       Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

1.2        Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, nododd y Cadeirydd ei bod hi wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor i warchod iechyd y cyhoedd.

1.3        Nododd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno y byddai Dawn Bowden AC yn camu i’r adwy fel Cadeirydd Dros Dro yn achos unrhyw broblemau technegol, yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.

1.4        Cafwyd ymddiheuriadau gan Hefin David AC. Nid oedd unrhyw ddirprwyon yn bresennol. Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.

 

</AI1>

<AI2>

2       COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru

2.1 Gofynnodd yr Aelodau gwestiynau i’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch COVID-19 a’i effaith ar blant a phobl ifanc.


2.2 Cytunodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ysgrifennu at y Pwyllgor unwaith i’r adroddiad ar farwolaethau annisgwyl ar ddechrau’r pandemig COVID-19 yng Nghymru gael ei gyhoeddi ac unwaith i Lywodraeth Cymru gael cyfle i’w ystyried.

 

2.3 Cytunodd y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gymryd y camau a ganlyn:

·    rhoi gwybod faint o’r cymorth sy’n cael ei gynnig gan Lywodraeth drwy Gronfa Ymateb COVID-19 y Trydydd Sector a Chronfa Cadernid y Trydydd Sector, a weinyddir gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, sydd wedi’i dargedu ar gyfer plant a phobl ifanc;

·    egluro faint o’r cyllid ar gyfer gwasanaethau trydydd sector sy’n golygu parhau â gwaith presennol a faint sy’n gyllid ychwanegol; a

·    chadarnhau’r amserlenni adrodd ar gyfer y grŵp gorchwyl a gorffen a gyhoeddwyd yn ddiweddar, a fydd yn gweithio gyda chynrychiolwyr gofalwyr i drafod anghenion penodol ystod eang o ofalwyr yn ystod y pandemig COVID-19 ac ar ôl iddo ddod i ben.

</AI2>

<AI3>

3       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (xi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

3.1 Cyn i’r Pwyllgor gytuno i’r cynnig, nododd y Cadeirydd mai’r cyfarfod hwn oedd busnes ffurfiol olaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru cyn iddo ddod yn Senedd Cymru.

3.2 Cafodd y cynnig ei dderbyn.

 

</AI3>

<AI4>

4       COVID-19: Trafod y dystiolaeth

4.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn graffu, gan gytuno i ysgrifennu at y Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog i ofyn am ragor o wybodaeth am rai o’r materion a godwyd yn ystod y sesiwn.

 

</AI4>

<AI5>

5       COVID-19: Trafod busnes sydd ar ddod y Pwyllgor.

5.1 Trafododd y Pwyllgor bapur ar waith arfaethedig y Pwyllgor ynghylch COVID-19. Cytunodd yr Aelodau ar raglen waith i gasglu tystiolaeth gan randdeiliaid, a hynny gan flaenoriaethu’r meysydd a ganlyn ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol:

·         effaith COVID-19 ar iechyd corfforol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc; ac

·         effaith COVID-19 ar addysg uwch ac addysg bellach.

 

</AI5>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>